Mathonwy Hughes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:42, 7 Ebrill 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio


Yr oedd Mathonwy Hughes (1901-1999) yn nai i'r bardd R. Silyn Roberts, y ddau wedi eu geni ym Mrynllidiart, ar y Cymffyrch rhwng Tan'rallt a Chwm Silyn.

Bu yn Ysgol Clynnog am gyfnod; enillodd iddo’i hun ddiwylliant eang trwy ddilyn dosbarthiadau i oedolion, a bu’n athro ar ddosbarthiadau felly.

Casglwr yswiriant ac is-olygydd Y Faner (1949-1977). Cartrefodd yn Ninbych. Bu ei gyfraniad ef a Gwilym R. Jones, y golygydd, i newyddiaduraeth yng Nghymru ac i holl fywyd y genedl, yn arbennig ei bywyd llenyddol, yn ddifesur, a hynny am gyflog pitw iawn.

Yr oedd yn fardd cynhyrchiol. Enillodd gadair genedlaethol Aberdâr yn 1956 am ei awdl Y Wraig. Cyhoeddodd 4 cyfrol o farddoniaeth: Ambell Gainc (1957), Corlannau (1971), Cneifion (1979), Cerddi’r Machlud (1986), a 5 cyfrol o ysgrifau: Myfyrion (1973), Dyfalu (1979). Gwin y Gweunydd (1981), Chwedlau’r Cynfyd (1983), a Y Pryf yn y Pren (1991).

Cyhoeddodd ei hunangofiant Atgofion Mab y Mynydd (1982); cyfrol am ei gyfaill pennaf Awen Gwilym R. (1980) a Darlith Llyfrgell Pen-y-groes Bywyd yr Ucheldir (1973).

Cyhoeddwyd cyfrol deyrnged iddo yn 2001: Cofio Mathonwy.

Ffynonellau

Chwareli Dyffryn Nantlle, Dewi Tomos, Llyfrau Llafar Gwlad (67), Gwasg Carreg Gwalch, 2007.

Amryw Bethau, Thomas Parry, Gwasg Gee. 1996.