Glynllifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:10, 16 Rhagfyr 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Plasty a gafodd ei ailadeiladu o gwmpas 1840-46 yw Glynllifon. Saif ar lan yr afon Llifon ym mhlwyf Llandwrog, ychydig i'r dwyrain o lôn bost Pwllheli (A499).

Roedd y tŷ hwn yn gartref i deulu’r Glyniaid am lawer canrif, ac hefyd i’r Arglwyddi Newborough o ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Adeiladwyd y tŷ a welwn yno heddiw o gwmpas 1840-46, ar ôl i dân ddinistrio’r tŷ a safodd yno ynghynt. Credir i’r tŷ hwnnw ei adeiladu o gwmpas 1751, a bod yntau wedi cymryd lle annedd hynach a oedd yn gartref i’r Glyniaid. Aeth y trydydd Arglwydd Newborough ati i ailadeiladu'plasty wedi'r tân, gan weithredu i raddau helaeth fel y pensaer gwreiddiol. Cyflogwyd Edwin Shelton, pensaer o Amwythig, i fireinio ei ddyluniadau.

Roedd y plasty yn gartref i’r Arglwyddi Newborough hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif, ac arosodd yn nwylo’r teulu hyd at 1949. Fe'i werthwyd yr eiddo i fasnachwyr coed o Drawsfynydd a aeth ati i gwympo llawer o'r coed prin aeddfed a blannwyd gan y teulu. Ailwerthwyd y plas a llawer o'r tir yn nechrau’r 50au i'r Cyngor Sir wedyn fel lleoliad newydd y coleg amaethyddol a fu gynt ym Mhlas Madryn, Pen Llŷn, ac mae’r plas a llawer o'r adeiladau eraill sydd ar hen dir y plasty bellach yn gartref i Goleg Meirion-Dwyfor. Mae’r tŷ ar hyn o bryd yn cael ei adnewyddu a’i throi'n westy moethus.

Mae’r tŷ hefyd yn gartref i ystlumod pedolog lleiaf, ac mae rhannau o’r tŷ o dan warcheidwad y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Mae rhai o erddi’r plasty, a elwir heddiw yn Barc Glynllifon ar agor i’r cyhoedd hefyd, ac mae modd gweld llawer o blanhigion egsotig a ddaeth rhai o’r hen deulu yn ôl i Landwrog pan oeddynt ar eu teithiau.

Ffynonellau

Erthygl ar Wicipedia am y plasty hwn

Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol