Neuadd a Sgwâr y Farchnad, Pen-y-groes
Safai Neuadd y Farchnad ym mhentref Pen-y-groes lle saif Neuadd Goffa Pen-y-groes yn awr, honno wedi ei chodi yn ystod y 1920au.[1] Mae'r darn trionglog o dir o flaen y Neuadd Goffa yn dal i gael ei alw'n Faes y Farchnad. Erbyn hyn, gyda'r orsaf reilffordd wedi diflannu a chanol y pentref wedi encilio i'r Stryd Fawr, nid oes ond siop sglodion a thafarn Yr Afr ger yr hen sgwâr brysur, lle gynt yr oedd nifer o siopau, yn cynnwys fferyllydd, siop esgidiau Tommy Herbert a siop emwaith ac oriaduron Gwilym Thomas.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma