Denisa, Arglwyddes Newborough

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:38, 22 Chwefror 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Clawr llyfr yr Arlwyddes Newborough

Ail wraig Thomas John Wynn, 5ed Arglwydd Newborough oedd Denisa Josephine Malpuech (1913-1992) (cyn-wraig Jean Malpuech, Rheolwr Laos), a merch Lazar Braun, Subotica, Iwgoslafia. Priododd y ddau ym 1938. Roedd hi wedi teithio Ewrop am flynyddoedd. Cafodd Arglwydd Newborough a hithau un ferch cyn iddynt ysgaru ym 1947, sef yr Anrh. (Blanche-Neige) Juno Palma Odette Denisa Wynn (g. 1940), a fu'n debutante ac a briododd â Philip Wolfe-Parry, Wimbledon Park, Llundain ym 1963. Dywedir fodd bynnag fod yr Arglwydd Newborough wedi dechau'r trefniadau i'w hysgaru y noson ar ôl eu priodas (a ddigwyddodd y bore ar ôl iddynt dreulio noson yn chwarae cardiau ym Monte Carlo). Mae'n bur debyg iddi gael llawer o gariadon cefnog ar hyd ei hoes. Ym 2015, gwerthwyd tri darn o'i chasgliad sylweddol o emwaith am bris oeddeutu £25,000, darnau a roddwyd iddi gan ei hedmygwyr. [1]

Roedd Denisa, Arglwyddes Newborough, yn gymeriad allblyg, heb fawr o hualau ymddygiad y dosbarth bonheddig a fyddai wedi ei rhwystro rhag byw bywyd a ddenodd sylw'r wasg a chymdeithas barchus. Bu hon yn achosi cryn sgandal yn y teulu wedi iddi hithau gael ei hysgaru gan ei gŵr. Ysgrifennodd hunangofiant dadlennol, "Fire in my Blood". Cyhoeddwyd y llyfr hwnnw ym 1958, ac am unwaith prin yr oedd rhaid i arlunydd argraffiad clawr meddal y gyfrol ymestyn ei ddychymyg wrth greu llun addas! Cafodd darnau hir o'r llyfr eu cyhoeddi yn y News of the World ym 1959. Mae un adolygydd ar wefan Amazon yn canmol y llyfr, er yn amau faint o'r cynnwys allai fod yn wir. Honna Denisa yn y llyfr ei bod wedi rhedeg i ffwrdd o'i chartref i ymuno â syrcas, a dywed iddi fod yn ddawswraig noeth, wedi arfer cerdded gwifrau uchel, wedi gweithio mewn clybiau nos, gan dynnu ei dillad, ac wedi hedfan awyrennau. I goroni'r cyfan, roedd hi'n enwog am sôn am yr holl bobl fawr a phwysig a oedd wedi bod yn rhan o'i bywyd - yn cynnwys Brenin Sbaen, Mussolini a Hitler. Honnai hefyd ei bod yn siarad 14 o ieithoedd - er nad oedd sôn am y Gymraeg.

Fodd bynnag, ymatebodd adolygydd arall (sef "Ampers", newyddiadurwr wedi ymddeol), sy'n honni iddo ei hadnabod yn dda, gan ddweud bod y llyfr yn wir i raddau helaeth iawn.

Ym 1963, cymerodd stondin ym Marchnad Shepherd yn Lundain, a masnachu fel deliwr mewn hen greiriau cain. Bu ganddi siop yn gwerthu hetiau hefyd yn Llundain am gyfnod.[2] Bu farw yn 79 oed, wedi ei hen ddiarddel o unrhyw gysylltiad â theulu Newborough. Prin iawn oedd ei hymwneud ag ardal Uwchgwyrfai, ond eto cododd ei gweithredoedd anghonfensiynol gryn chwilfrydedd ymysg ei thrigolion.


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Art Daily, [1], cyrchwyd 19.2.2021
  2. Llun ar wefan Alamy, [2], cyrchwyd 19.2.2021