Griffith Jones, Llanddowror

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:02, 18 Chwefror 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cynhaliwyd ysgolion cylchynol Griffith Jones, Llanddowror, ym mhlwyf Llanaelhaearn rhwng 1749 a 1773. Yn Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn y cyfarfyddai bron y cyfan o'r ysgolion hyn, a dysgwyd ynddynt yn agos at bedwar cant o ddisgyblion o bob oed i ddarllen (y Beibl yn bennaf, wrth gwrs).

Un o'r athrawon oedd Ellis Thomas, Ciwrad y plwyf, a chafodd bob cefnogaeth gan Richard Nanney, Elernion, Rheithor y plwyf (oedd hefyd yn Ficer Clynnog Fawr). Roedd gan Nanney awydd dwfn am weld y werin yn hyddysg yn y Beibl. Ym 1758, a'r ysgol yn Llanaelhaearn dan ofal un G-- J--, anfonodd Nanney lythyr ar yr 17eg o Ionawr at Griffith Jones, Llanddowror, yn disgrifio'r ysgol hon a'i 29 disgybl, gan ddatgan yn ddiamwys mai crefydd oedd wrth wraidd ei frwdfrydedd. Meddai :

Mi a'u harholais hwy oll un boreu, a chefais rai yn sillebu ac ereill yn darllen yn weddol dda ; yr oedd yr athraw hefyd yn ofalus iawn amdanyt, ac yn dra difrifol gyda hwynt. Gellir yn briodol iawn gydmaru yr ysgol hon i'r ffenestr honno oedd gan yr Iddewon yn eu hystafell weddi, yr hon oedd bob amser yn cyfeirio tua'u lleoedd o addoliad. Mae hyn yn dangos mai crefydd a ddylai fod yn brif wrthddrych ein gwybodaeth.


Yn ystod gaeaf a gwanwyn 1755-56 cynhaliwyd un o ysgolion cylchynol Griffith Jones yn ardal yr Hendref (Trefor wedi hynny) yn hen ffermdy Cefn Buarthau, Trefor neu Cefn Berdda (Cefn Buarthau yn y Welch Piety, cylchgrawn yr ysgolion cylchynol). Roedd yna 34 o ddisgyblion yn yr ysgol hon.


Cyfeiriadau