Ysgoldy Ochr y Cilgwyn (MC)
Fe sefydlodd ysgol Sul mewn tŷ yn y Cilgwyn ym 1847 neu ychydig cyn hynny gan aelodau yng [Capel Tal-y-sarn (MC)|Nghapel Tal-y-sarn]] (er i Hobley gofnodi'r dyddiad fel 1849)[1]. Fe gofnodir nifer mynychwyr yr ysgol Sul hon yn y Llyfrau Gleision ym 1847 fel 71 o ddisgyblion dan 15 a 33 dros 15.
Parhaodd yr achos am ychydig, ond cododd dadl parthed yr hawl enwadol i'r lle, ac fe drôdd yr achos yn acos gan yr Annibynwyr, a gododd Capel Cilgwyn (A).
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.191