Cefn Hendre

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:38, 11 Chwefror 2021 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cefn Hendre, neu "Cefn" yn fferm ym mhlwyf Llanwnda ger pentre'r Dolydd. Ar un adeg, arddelid enw arall arni, sef "Cefn Cil-tyfu". Saif ar fymryn o gefnen rhwng ceunant yr Afon Carrog i'r dwyrain a'r hen ffordd bost o Gaernarfon i Ben-y-groes i'r gorllewin. Yr oedd hen felin, Melin Cil Tyfu, ar yr afon yn y ceunant hyd y 17g.

Rhan o Ystad Pontnewydd

Nid yw hanes yr eiddo'n wybyddus yn y cyfnod cynnar, ond o bosbibl erbyn 1667, ac yn sicr erbyn 1693, roedd dynes weddw, Margaret Lloyd, yn byw ac yn ffermio yno. Mae'n amlwg o'i hanes ei bod yn aelod o ail reng boneddigion y sir - merch Robert Wynn, Glascoed, Pentir ydoedd. Priododd hi ddwywaith, yn gyntaf â'r Parch. Morgan Lewis, MA, (marw 1641) oedd yn hyn o lawer na hi; ac wedyn ag Owen Lloyd o'r Henblas, Llangristiolus, Sir Fôn, yntau'n marw ym 1667. Dichon i Margaret symud yn ôl i dŷ o eiddo ei gŵr cyntaf wedi hynny, gan fod Owen Lloyd wedi gadael Henblas i'w nith.[1] Bu farw Margaret ym 1693, gan adael ei heiddo yn bennaf i'w theulu. Ynghlwm wrth ei hewyllys, mae rhestr arbennig o fanwl o holl gynnwys y tŷ a'r holl offer amaethu - gwerth £108.17.0c i gyd, sef swm sylweddol y pryd hynny. Ei mab oedd Hugh Lewis, yswain o'r Bontnewydd, sef Plas-y-bont, ac mae'n debyg mai Cefn oedd un o ffermydd yr ystad honno, a Margaret yn cael byw yno fel gweddw tad Hugh.[2]

Mae'n amlwg mai rhyw fath o "tŷ'r weddw" oedd Cefn yr adeg honno, gan fod gwraig ŵyr Margaret Lloyd, sef Mary Lewis, gweddw y Parch. Morgan Lewis, rheithor Llandwrog a pherchennog Ystad Pontnewydd yn ei dro, yn byw yno tua 1715.[3]

Bu farw ei gor-ŵyr hi, Hugh Lewis arall, a aned ym 1694, ym 1721, gan adael ei dir i'w fab yntau, Hugh Lewis arall, a bu farw hwnnw ym 1759. Ym 1738, fodd bynnag, er mwyn codi arian, cymerwyd morgais am £100 am 99 o flynyddoedd ar ddau fferm o'i eiddo, sef Cefn a Thraean.[4] Dichon fod y swm o £100 wedi'i dalu'n ôl ynghyd â'r llog, a Chefn a Thraean yn rhan o'r ystâd pan werthwyd Ystad Bontnewydd ym 1819. Ym 1759, etifeddodd Elisabeth, unig ferch yr Hugh Lewis olaf yr ystad ac yn fuan wedyn fe briododd hi â Charles Evans o Lethr-ddu, Llanaelhaearn, a Threfeilir a'r Henblas yn Sir Fôn. Teulu Evans oedd yn berchnogion yr ystad nes iddynt ei gwerthu ym 1819.[5]

Byddai ffermydd ar ystâd, heblaw efallai am fferm y Plas ei hun, yn cael eu gosod i denantiaid, a doedd Cefn ddim yn eithriad yn hyn o beth. Ym mis Awst 1761, marwodd tenant Cefn, Lewis Davies (neu David), ac mae rhestr o'i eiddo ar gael ymysg dogfennau profiannaeth yr esgobaeth.[6] Roedd Lewis Davies, er yn denant, yn ddyn gwerth tipyn o arian - £161.7.6c. Roedd o'n tyfu gwenith, haidd a cheirch ar y fferm, roedd ganddo 7 o wartheg godro gwerth 3 gini'r un, ynghyd â 2 o heffrod , 29 o ddefaid ac ŵyn, 5 ceffyl, a 7 mochyn, a nifer o ddofednod hefyd. Yn y rhestr, ceir nodyn o ystafelloedd y tŷ hefyd:Parlwr, Neuadd (sef Cegin), Bwtri, "Above Stairs", "outhouse" a stablau. Bron yn sicr, dyna'r tŷ y bu Margaret Lloyd yn byw ynddo ganrif ynghynt - tŷ weddol fychan ond eto gweddol ei maint yn ôl safonau ffermdai'r cyfnod.

Bu farw Griffith Jones, tenant diweddarach Cefn, ym 1785. Mae rhestr o'i eiddo pan fu farw ar gael:[7]

"Inventory of all the Goods and Catless of Griffith Jones of Cefn in the parish of Llanwnda was Buryd the 10th Janny 1785
Sadle horse and Garment....£4.15.0 
Two Horse...................6. 0.0
Catles........................12. 0.0
Sheep........................4.10.0
Corn.........................10. 0.0
Hay............................2. 0.0
Cart & Plough &c....... 3.10.0
Housell Goods............8. 6.5
Bottelas.....................0.10.0
                                        ______
                                      £61.11.5
Rent Due to Mr Rowlands    6. 11.0
                                        ______
                                       £55. 0.5
Wages the servant              1.  4.0
                                        ______
                                      £53.16.5
Appraised by us, The Mark X of Mathew Roberts of Caerlygan
                          The Mark X of  Owen Griffith of Fotty Wen"

Mae'r rhestr eiddo uchod yn ddiddorol am sawl rheswm. Roedd y ffarmwr yn ddigon cefnog i gadw ceffyl marchogaeth gweddol ddrudfawr (wrth gymharu â'r prisiau arferol am geffylau). Roedd y dull ffermio'n gymysg - gwartheg (tua 6 yn ol pob tebyg), efallai 45 o ddefaid, a swp sylweddol o rawn. Roedd y fferm yn medru cynnal gwas. Nid yw'n amlwg pwy oedd Mr Rowlands - asiant Mr Evans y perchennog efallai. Ond sylwer ar werth y stoc a'r nwyddau i gyd - dim ond hanner gwerth mam perchennog yr ystâd tua chan mlynedd yn gynt.

Cymerodd weddw o'r enw Elisabeth Hughes y denantiaeth wedyn, ond bu hithau'n farw ym 1791. Yny rhestr o'i heiddo hi, nodi stoc tebyg o ran anifeiliaid a chnydau i'w rhagflaenwyr ar y fferm, er bod cynnwys y tŷ'n ymddangos yn well ac yn fwy cyfoes, gyda phethau fel cloc a drych yno. Roedd hefyd ganddi 4 tröell. Cyfanswm ei gwerth mewn arian, anifeiliaid a nwyddau oedd oddeutu £281.[8]

John Jones yw'r tenant nesaf y ceir sôn amdano. Bu farw ym 1817 neu ychydig cyn hynny, Gadawodd gwraig a dau fab i rannu ei eiddo oedd i gyd gwerth £63.16.0c. Roedd ganddo wartheg corniog, ceffylau, defaid, moch a chnydau yn yr ysgubor, er nad yw'r niferoedd wedi'u nodi yn y rhestr o'i eiddo.[9] Nid yw'n glir a ddarfu i'w wraig Mary a/nau ei feibion Griffith ac Owen barhau i ffermio Cefn.

Eiddo Teulu Constable

Fel y dywedir uchod, wedi i etifeddes teulu Lewis, Plas-y-bont briodi, bu'r ystâd i gyd, yn cynnwys Cefn, yn rhan o diroedd teulu Evans, Llethr-ddu, Trefeilir a'r Henbals, nes iddynt benderfynu gwerthu tiroedd hen ystâd Pontnewydd ym 1819.

Yn yr arwerthiant, gŵr diarth o'r enw Philip Constable, ysw., o Northampton brynodd ffermydd Cefn a Thraean (ymysg eiddo arall yn yr arwerthiant), am y swm sylweddol o £5150.[10] Nith i Philip Constable oedd Anne Constable, merch brawd Philip, Benjamin Constable a'i wraig Elizabeth Dank. Fe'i briododd Anne ym 1819 â John Ellis o Ryllech, Llannor, yntau'n fab i Thomas Ellis, Rhuthun a Phlas Bodfel yn Llŷn, twrnai yn Llundain - sydd o bosibl yn esbonio sut wnaeth mab teulu o Ben Llŷn ddod ar draws merch o Northampton! Mabwysiadodd y teulu'r cyfenw Constable Ellis ar gyfer eu plant.[11] Bu farw Philip Constable ym 1824, gan adael ei dir yn Sir Gaernarfon i'w ferched, sef Anne a'i chwaer. Yr oedd wedi priodi ym 1820 ac wedi aros yn Swydd Northampton[12] ac felly prin ei fod wedi byw yng Nghefn na'r un eiddo arall yn Sir Gaernarfon. Ymddengys fod cyfanswm yr eiddo a etifeddwyd ganddynt oedd y ffermydd Parsel a Capas Lwyd, plwyf Llanaelhaearn, Ysgubor Fawr, plwyf Clynnog-fawr, a Cefn, Penyclip, Tŷ Cnap a Thraean, plwyf Llanwnda.[13]

Y nesaf y mae sôn amdani'n ffermio Cefn yw Mary Ellis, gweddw John Jones, y soniwyd amdano uchod ac a farwodd ym 1817. Gwnaeth Mary Ellis ei hewyllys ym 1825, er nad oedd yn cael ei phrofi tan 1829 ac fel;ly nid yw'n glir pryd y farwodd hi. Mae'n demtasiwn i weld awgrym yng nghyfenw Mary Ellis ei bod hi'n perthyn i deulu Rhyllech, ond nid yw hynny'n sicr, a barnu oddi wrth ei hewyllys, fodd bynnag. Nid yw achres teulu Rhyllech yng nghyfol "Griffiths' Pedigrees" yn dangos unrhyw Mary Ellis berthnasol. Nid oedd Mary Ellis yn ddynes gefnog, a'i eiddo'n werth di, mwy na £67, er bod hi'n cadw ceffylau, gwartheg corniog, defaid a moch. O'i hewyllys gellir casglu ei bod yn ffermio ar y cyd gydag un o'i meibion, Ellis Ellis.[14] Roedd ganddi bump o feibion, William, Ellis, Griffith, John ac Owen, ac un ferch Margaret. Mae'n bosibl mai ei mab William olynodd hi ar y fferm, gan fod rhyw William Jones yn denant deng mlynedd yn ddiweddarach, ond gan fod y cyfenw mor gyffredin, ni ellir fod yn sicr.

Pan wnaed y Map Degwm a rhestru'r tir oedd yn perthyn i'r fferm tua 1840, yr Anne Ellis uchod oedd y perchennog a William Jones oedd y tenant oedd yn ffermio. Roedd y fferm yn ymstyn i ryw 48 erw. Rhestrir yno enwau'r caeau: Cae'r ffront, Cae bach, Cae sgubor, Llain, Cae Tyddyn, Rallt, Werglodd fain, Cae Thomas, Cae'r odyn, Cae pwll pridd, Cae court, Cae teg, Cae mawr, Wann, Rallt, Wann, Cae Tyddyn, Gors a Cavan Uchaf. Diddorol yw sylwi ar ddogfen Rhestr Bennu'r Degwm mai Ann Ellis oedd yn berchen hefyd ar fferm Traean y drws nesaf, sef dau eiddo oedd, mae'n debyg, wedi eu prynu iddi ar adeg ei phriodas. Nodir fod Anne Ellis hefyd yn berchennog Tŷ Cnap a Phenyclip ym mhlwyf Llanwnda, a dichon bod y rhain wedi'u prynu yn yr un arwerthiant gan Philip ei hewyrth.[15]

Ymddengys na fu William Jones yno'n hir wedi llunio'r Map Degwm, gan fod tenant arall, a hwnnw'n denant o ddosbarth uwch, yn byw yng Nghefn, sef Rowland Hughes, bonheddwr. Roedd o'n dirfeddiannwr ei hun, gan berchen ar fferm yn Llanrhuddlad, Sir Fôn o'r enw Tyddyn Mawr neu Dyddyn y Jockey. Ymddengys ei fod naill ai'n ddi-briod neu'n ŵr gweddw, gan iddo adael ei eiddo rhwng nifer o berthnasau. Roedd ei nai William Jones yn cadw tanws neu farcdy yng Nghaernarfon, a Jane gwraig William oedd ei ysgutor.[16] Y cwestiwn mawr yw hyn: ai William Jones, Cefn, a William Jones, y crwynwr, oedd yr un un?

Erbyn 1851, roedd y tŷ a'r fferm wedi'u gosod i Evan Richards, ficer Llanwnda a Llanfaglan; a'i wraig, Jane Richards, yn wreiddiol o Eglwysfach, Sir Ddinbych. Roedd cogyddes, morwyn a gwas fferm yn byw yno, ac roedd Hugh Roberts, curad y plwyf, yn lletya yno.[17]

Erbyn 1861 roedd Jane Richards yn weddw, ac yn ffarmio 70 erw Cefn. Yn byw gyda hi oedd ei chwaer, Mary; a'r ddwy yn eu saithdegau. Yr oedd un labrwr (nad oedd yn byw yng Nghefn) a dau was ifanc, un yn y stabl a'r llall yn gofalu am y gwartheg. Diddorol hefyd yw sylwi bod preswylydd arall (border) yno, Caroline Thrisa Everett, 39 oed - dynes a aned yn Ffrainc, er ei bod yn ddinesydd Prydeinig. Rhwng Cefn a'r Traean yr oedd yna dŷ arall, LLwyn Angharad (sydd bellach wedi diflannu'n llwyr) lle trigai Evan Williams, gwas fferm a'i deulu. Tybed ai hwn oedd y labrwr a gyflogid ar fferm Cefn.[18]

Mae'n amlwg o'r tŷ presennol, sydd yn edrych o'r tu allan fel tŷ o'r 18-19g., mai nad hwnnw oedd y tŷ y manylwyd ar ei ystafelloeddMae'n debyg felly i'r tŷ gael ei ailadeiladu a'i ehangu rywbryd rhwng 1761 a chanol y 19g.

Bu farw Anne Ellis ym 1869, ac fe etifeddwyd yr eiddo gan y Parch. Philip Constable Ellis, rheithor Llanfairfechan, ei nai. Cadwodd y ffermydd am ryw ddeugain mlynedd ond penderfynwyd eu gwerthu, ynghyd â fferm Ysgubor Fawr, Clynnog-fawr, ym 1912-13.[19]

Ym 1873 gosodwyd Cefn i John Owen. Roedd y fferm yn 50 erw, a'r rhent blynyddol oedd £74.10.0c y flwyddyn.[20]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.122, 123, 256
  2. LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1693/64 W ac I
  3. LLGC, Papurau Thorowgood, Tabor and Hardcastle (solicitors) 184
  4. Archifdy Caernarfon, XM479/18
  5. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.123,
  6. LLGC Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1761/95 B & I
  7. LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1785/98 I
  8. LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1791/74 B & I
  9. LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1818/118 W & I
  10. Archifdy Caernarfon, XM479/22
  11. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.398
  12. Cymdeithas Hanes teulu Northants, Adysgrif o Gladdedigaeathau Swydd Northants
  13. Archifdy Caernarfon, XD479/39-40
  14. LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1829 /118 W & I
  15. LLGC, Map a Rhestr Bennu Degwm plwyf Llanwnda
  16. LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1842/104 W
  17. Cyufrifiad plwyf Llanwnda, 1851
  18. Cyfrifiad plwyf Llanwnda, 1861
  19. Archifdy Caernarfon, XD2/14512, 14518
  20. Archifdy Caernarfon, XD479/24