Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn
Eglwys hynafol yw Eglwys Aelhaearn, ym mhentref Llanaelhaearn.
Sefydlwyd gan Aelhaearn, disgybl i Beuno a sefydlodd Eglwys Clynnog. Credir iddi ei hadeiladu o gwmpas y deuddegfed ganrif, neu’r drydedd ganrif ar ddeg. Mae’r Esgyll yn dyddio rhwng yr unfed ganrif ar bymtheg neu ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg.
Yn 1865 darganfuwyd carreg Aliortus mewn cae ger yr Eglwys, a chredir iddi ddyddio i’r seithfed ganrif.