Robert Roberts, gweinidog Capel Uchaf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:15, 29 Ionawr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Robert Roberts (1762 - 1802), pregethwr a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.

Ganed Robert Roberts ar 12 Medi 1762 yn Y Ffridd, Baladeulyn, yn fab i Robert Thomas a Catherine Jones. Yn fachgen ifanc aeth i weithio i Chwarel Cilgwyn, un o'r mân chwareli llechi a oedd yn dechrau cael eu hagor yn Nyffryn Nantlle bryd hynny. Nid oedd yn rhoi llawer o bwys ar faterion ysbrydol a chrefyddol yn ei flynyddoedd cynnar, ond yn un ar bymtheg oed aeth ei frawd, John (John Roberts, Llangwm yn ddiweddarach) ag ef i wrando ar un o hoelion wyth y cyfnod, David Jones, Llan-gan, yn pregethu ym Mryn'rodyn. Cafodd yr oedfa honno ddylanwad mawr arno ac yn fuan wedyn gadawodd y chwarel ac aeth i weini ar ffermydd. Bu yng Nghefn Pencoed yn Eifionydd i ddechrau ac yna symudodd i Goed-cae-du, cartref pregethwr nodedig arall, Richard Jones (Y Wern). Ond yn fuan wedyn cafodd Robert Roberts salwch difrifol, sef ymosodiad enbyd o'r crudcymalau, a wnaeth ei adael yn llesg a gwael weddill ei oes. Ni allai barhau â gwaith caled gwas ffarm ac aeth am gyfnod byr i ysgol a gedwid gan Evan Richardson ym Mrynengan, a oedd yn gartref i un o achosion Methodistaidd cynharaf Llŷn ac Eifionydd. Pan ddaeth diwygiad grymus i'r ardal honno teimlodd Robert alwad i ddechrau pregethu a bu'n cadw ysgol hefyd mewn gwahanol fannau yn Eifionydd. Oherwydd gwendid ei gorff, a oedd yn gam a chrwca o ganlyniad i'r crudcymalau, roedd pregethu a chadw ysgol yn ormod iddo a derbyniodd alwad i weinidogaethu'r achos yng Nghapel Uchaf Clynnog Fawr, gan fyw gyda'i wraig yn y tŷ capel. Daeth Robert Roberts yn un o bregethwyr grymusaf ei gyfnod yng Nghymru. Roedd ei allu disgrifiadol wrth bregethu'n nodedig a'i ddawn areithyddol yn rhyfeddol. Daeth ei sylwadau bachog yn rhan o gof gwerin a'i ddisgrifiadau dramatig yn cynhyrfu ac ar brydiau'n arswydo ei gynulleidfaoedd. Bu farw'n ddim ond deugain oed ar 28 Tachwedd 1802 a'i gladdu ym mynwent Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr. Ceir englyn gwych o waith Eben Fardd ar ei garreg fedd:

                                  Yn noniau yr eneiniad - rhyfeddol 
                                     Fu'r gŵr a'i ddylanwad,
                                    Seraff o'r nef yn siarad 
                                    Oedd ei wedd yng ngŵydd ei wlad.