Melin Eithinog
Melin Eithinog oedd un o brif felinau cwmwd Uwchwgyrfai yn y Canol Oesoedd, ac roedd tenantiaid yr arglwydd/tywysog mewn nifer o drefgorddau'n gorfod defnyddio'r felin hon i falu eu grawn. Safai ar Afon Llyfni, yn nhrefgordd Eithinog, ac er nad yw'r safle'n sicr, mae'n debyg ei bod hi'n rhagflaenydd i'r felin a elwid yn Melin Lleuar nid nepell o fryngaer Craig-y-dinas.