Plas Dinas

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:08, 7 Rhagfyr 2017 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Plasty sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg yw Plas Dinas, sydd yn hen blwyf Llanwnda.

Credir i diroedd Dinas fod yn gysylltiedig a hen drefgordd Bodellog, a gelwir ar un adeg yn Dinas Dinoethwy. Cafodd ei hadeiladu yn 1653 gan Thomas Williams, un o feibion ystâd y Faenol. Rhoddodd garreg ar un o furiau’r plasty, ac wedi naddu arni ceir ‘1653 TW, JW’. Mae’n debyg mai ei llythrennau enw Thomas Williams a’i wraig yw rhain. Ni chafodd y gwr hwn fyw yn ei annedd newydd am yn hir ar ei adeiladu oherwydd buodd iddo farw yn 1656.

Ail-briododd ei wraig Jane, a oedd yn ferch i deulu Castellmarch, gyda Thomas Bulkeley – mab Arglwydd Bulkeley o’r Baron Hill ym Miwmares. Trwy ei briodas a Jane, gwnaethpwyd ei ystâd yn llawer mwy a manteisiodd ar ei gysylltiadau newydd yn ardal Llanwnda.

Ar farwolaeth Thomas Bulkeley yn 1708, etifeddodd ei nai, Thomas Bulkeley Plas Dinas a buodd fyw yno ei hyn am rhai blynyddoedd. Erbyn 1741, roedd y Parch. Richard Farrington, M.A., ficer ym mhlwyfi Llanwnda a Llanfaglan yn byw yno. Yn ei gyfnod ef, nid oedd y tiroedd ynghlwm a’r plasty, ac roedd rheiny yn nwylo Morris Williams, tirfeddiannwr uchel ei barch yn ardal Llanwnda.

Symudodd y plasty wedyn o feddiant Farrington i Gapten Richard Jones, gŵr i un o ferched y Morris Williams a nodir uchod. Daeth yna Owen Roberts o Dŷ Mawr, Clynnog yno i fyw ynghyd a’i briod Catherine o’r Castell, Llanddeiniolen. Roedd Roberts wedi addasu llawer ar y tŷ, ac wedi adeiladu estyniadau arni. O ganlyniad hyn, cadwodd y tŷ ei statws fel plasty, yn hytrach na’i throi yn ffermdy fel llawer o anheddau hynafol eraill yn ardal Uwchgwyrfai.

Cysylltir llawer o bobl leol y plasty fel cartref i’r diweddaf Anthony Armstrong-Jones, a briododd a’r Dywysoges Margaret yn 1960. Mae’r plasty bellach yn westy pum seren moethus.

Ffynonellau

Williams, W. Gilbert Moel Tryfan i’r Traeth (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes, 1983)

Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol