Caer Williamsburg
Mae Caer Williamsburg yn gaer sylweddol ac yn adeilad rhestredig Gradd II o fewn Parc Glynllifon.
Adeiladwyd Caer Williamsburg ym 1761 gan Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough|Syr Thomas Wynn]], Glynllifon a gwnaed ychwanegiadau iddi ym 1773-76. Roedd Thomas yn Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon, yn Gwnstabl Castell Caernarfon ac yn Arglwydd Raglaw'r sir. Roedd hefyd yn cymryd ei gyfrifoldebau dros drefnu Milisia'r Sir yn gwbl o ddifrif, gan sicrhau ei bod yn ymarfer yn gyson ac wedi'i harfogi'n briodol. Roedd Caer Williamsburg felly'n ganolbwynt i weithgaredd y milisia yn yr ardal a bwriedid iddi fod yn safle amddiffynnol o bwys pe bai ymosodiad o'r môr ar y rhan hon o Sir Gaernarfon.
Mae'r gaer yn sgwâr i bob pwrpas o ran ei chynllun gyda bastiynau'n ymwthio allan yn y corneli ac wedi'u cysylltu â rhagfuriau. Mae ffos ddofn hefyd yn amgylchynu'r gaer. Mae'r giatws i'r gaer yn drawiadol iawn, ac yn debyg i bafiliwn gardd yn hytrach na rhan o safle milwrol. O fewn y gaer ceir nifer o adeiladau domestig a milwrol eu natur a'i phrif nodwedd yw'r tŵr uchel trillawr. Mae hwn wedi'i baentio'n olau ac yn amlwg o bell, a cheir golygfeydd trawiadol o'i ben draw i gyfeiriad Yr Eifl ar y chwith, am Gaernarfon a'r cylch i'r dde, a dros Fae Caernarfon ac Ynys Môn yn syth ymlaen.[1] Roedd yr Arfdy, adeilad mawr hirsgwar, yn cael ei ddefnyddio fel storfa archifau rhwng 1974 a 2000.
Tua 2000, trosglwyddwyd y gaer o ofal y Cyngor Sir i Goleg Meirion Dwyfor ar eu hanogaeth hwy, gan rwystro mynediad i'r cyhoedd. Beth bynnag am hynny, oherwydd bod cyflwr y gaer wedi dirywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yw'r cyhoedd yn cael mynediad iddi ar hyn o bryd.[2]