Plas Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:58, 8 Ionawr 2021 gan 86.134.19.229 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Plas Nantlle a elwir heddiw yn "Tŷ Mawr" hefyd wedi cael ei alw'n Blas yn Nantlle, Tŷ Mawr Nantlle neu hyd yn oed Nantlle yn ystod y saith ganrif ers iddo gael ei godi'n wreiddiol. Heddiw mae o'n un o'r plastai hynaf a mwyaf diddorol yn Uwchgwyrfai er nad yw'n gyfarwydd i lawer, gan ei fod yn parhau'n dŷ preifat ac yn gymharol ddi-nod o'r ffordd. Saif i'r chwith o'r ffordd B4418 wrth i honno droi i'r dde i gyfeiriad Drws-y-coed yng nghanol pentref Nantlle. Y Plas, yn wir, sydd wedi rhoi'r enw i'r pentref, gan mai terasau o dai ar dir oedd yn eiddo i'r Plas yw'r rhan fwyaf o dai'r pentref, na ddaeth i fodolaeth tan ail hanner y 19g.

Mae enw Nantlle ei hun yn debygol o fod yn hŷn na'r tŷ cyntaf ar y safle, fel disgrifiad o'r ardal, sef Nant = Dyffryn (fel yn enw Nant Gwytheyrn) ac wedyn Lleu, y ffigwr mytholegol - er mod rhai wedi ceisio ei ddehongli fel Nantllynnau, gan fod dau lyn yno.[1]

Dichon fod Plas Nantlle'n sefyll ar safle Llys Baladeulyn, a oedd yn llys uchelwyr yn amser Llywelyn Fawr, ac a feddiannwyd gan y brenin Iorwerth I ym 1284. Tŷ neuadd pren fyddai adeilad o'r cyfnod hwnnw'n ôl pob tebyg, a buan y byddai'n mynd yn adfail wedi i'r teulu wreiddiol farw neu gael eu symud oddi yno. Yr oedd y tir oedd yn gysylltiedig â Llys Baladeulyn yn debygol o fod wedi ymestyn ar draws ardal eang o Ddyffryn Nantlle, yn cynnwys y llethrau lle datblygwyd Chwarel Pen-yr-orsedd ymhen rhai canrifoedd. Tua 1356 neu'n fuan wedyn, fe roddwyd chwe "carucate", neu oddeutu 720 erw o dir, yn wobr i un o ddisgynyddion Ystrwyth ab Ednowain, sef Tudur ap Goronwy, am ei wasanaeth yn ymladd yn erbyn Ffrainc ym myddin Lloegr, lle arweiniodd, meddid, 12000 o filwyr Cymreig - er bod y nifer hwnnw, mae'n debyg, yn or-ddweud sylweddol. ar ei ystâd newydd fe gododd dŷ newydd yn ol pob sôn,sef Plas Nantlle.

Roedd Tudur ap Goronwy wedi priodi Morfudd ferch Hywel a oedd, fel yntau, yn ddisgynnydd i Gilmyn Droed Ddu, ac felly roedd tiroedd Nantlle a thiroedd Glynllifon wedi'u huno. Parhaodd yn un eiddo tan 1509 pan rannwyd yr ystâd rhwng dau etifedd Robert ap Maredudd o Lynllifon a chafodd Rhisiart ap Robert Nantlle. Yr oedd y ty erbyn hyn yn gant a hanner oed, ac yr oedd symudiad gan y dosbarth bonheddig yn ystod yr 16g. i godi tai newydd modern nad oeddynt yn amddiffynfeydd i raddau nac yn dilyn hen batrwm agored y tŷ neuadd. Wedi i William ab Rhisiart, ei fab etifeddu'r eiddo, aeth ati i godi tŷ newydd yn unol â ffasiwn yr oes yn lle'r hen blas. Mae archwiliadau cylchoedd tyfu'r coed sydd yn nho'r adeilad yn awgrymu dyddiad rhwng 1536 1 1556,[2] ac mae hyn yn dangos fod y tŷ wedi ei godi ynghanol y ganrif honno.


Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Caernarfon, 2011), tt.205-7
  2. J. Dilwyn Williams, ‘’Tŷ Mawr’’, adroddiad gan Brosiect Ddendrochronoleg Gogledd-orllewin Cymru, 2012, t.3 [1]