Llys Baladeulyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:39, 6 Ionawr 2021 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yr oedd Llys Baladeulyn yn un o lysoedd y Tywysog cyn 1284, pan y cipiodd brenin Lloegr, Iorwerth I, eiddo'r tywysogion. Safai, mae'n bosibl, lle mae Plas Nantlle neu Tý Mawr, Nantlle, heddiw, neu nid nepell o'r fan honno - er bod traddodiad arall yn dweud y safle bellach o dan domen chwarel.[1] Mae'r enw'n cyfeirio at y ffaith fod dau lyn Nantlle yn cwrdd ychydig i'r de o'r safle.

Mae traddodiad yn adrodd fel y bu i fab Iorwerth a'i frenhines Mallt (Matilda), sef Iorwerth y Tywysog Du, gael ei eni yn Maladeulyn, cyn gael ei gyflwyno i'r werin honedig hygoelus yng Nghaernarfon fel tywysog i Gymru nad oedd yn siarad yr un gair io Saesneg - prin yn syndod ag ystyried ei fod ond ychydig wythnosau oed![2] Dichon fodd bynnag mai propaganda di-sail yw'r stori.

Roedd gan y safle wrth geg rhan gulaf Dyffryn Nantlle yn gwarchod tiroedd yr arglwydd i'r gorllewin werth strategol yn yr oes pan oedd rhyfela'n fater o finteiau arfog gweddol fach a phob arglwydd â gastell bach o bren neu garreg ar ben mwnt. Nid oedd y man mor bwysig wedi i Iorwerth I sefydlu ei gestyll cadarn mewn mannau gwir strategol, a Chastell Caernarfon yn amddiffyn holl dir Uwchgwyrfai.

Nid oedd y safle ddiarffordd o werth neilltuol i goron Lloegr, ac ar ôl Brwydrau Crécy, 1346, a Phoitiers, 1356, yn Ffrainc, fe roddwyd yr eiddo ynghyd â 6 carucate o dir i un o arwyr y brwydrau hynny, Tudur ap Gronow neu Dudur Goch.Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; rhaid i dagiau 'ref' heb enw iddynt gynnwys testun


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Thomas Alun Williams, Baladeulyn ac Edward 1af yn Nantlle, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [1]
  2. Thomas Alun Williams, Edward 1af yn Nantlle, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [2]