Tre'r Ceiri
Bryngaer sy’n dyddio o’r oes haearn yw Tre’r Ceiri. Lleolir ar un o gopau'r Eifl, ac edrychai dros arfordir cwmwd Uwchgwyrfai, tua’r gogledd am Gaernarfon.
Credir iddo fod yn nwylo’r Rhufeiniad ar un adeg, gyda lle i ddal tua 400 o bobl. Darganfuwyd olion tua 150 o dai cerrig yn y lle hwn hefyd, sy’n arwydd ei fod wedi bod yn hynod bwysig yn ei gyfnod.
Ffynonellau
Wheeler, R. E. Mortimer Roman and Native in Wales: An Imperial Frontier Problem Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion 1920-1921