Y Mabinogi

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:04, 31 Awst 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

"Y Mabinogi" yw'r enw a roddir yn benodol i bedair o chwedlau llafar Cymreig neu Geltaidd sydd yn mynd yn ôl i ddyddiau cynharaf ein hunaniaeth fel cenedl o bobl. Cyfeirir at y rhain y aml fel Pedair Cainc y Mabinogi. Mae'r term Y Mabinogion yn derm nas ceir yn y llenyddiaeth gynnar ond unwaith (ar ddiwedd hanes Pwyll) ond fe'i fabwysiadwyd gan Charlotte Guest, cyfieithydd y testunau hyn a rhai straeon cynnar eraill fel teitl i'w gwaith.[1]

Er bod yr hanesion yn sôn am lawer i ran o Gymru, mae rhan helaeth o gynnwys y Pedair Cainc yn cyfeirio at Môn, Arfon a Meirionnydd, ac mae Uwchgwyrfai yn frith o enwau lleoedd sydd yn cyfeirio at gymeriadau a lleoedd sydd yn ymddangos yn yr hanesion: enwau megis Caer Arianrhod, Dolbebin, Maen Dylan ac ati.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Meic Stephens (gol.), ‘’Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru’’, (Caerdydd, 1986), t.385