David William Pughe (Dafydd ab Hu Feddyg)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:34, 24 Tachwedd 2020 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd David William Pughe (1821-1862) yn feddyg yn ardal Uwchgwyrfai, yn hynafiaethydd ac yn llenor. Bu'n ffrind am flynyddoedd lawer (yn ogystal â meddyg) i [[Eben Fardd].

Fe'i darawyd gydag iselder affwysol ar ddiwedd ei oes fer, gan ymatal rhag unrhyw weithred o'r bron ac unrhyw ffyrdd o gymdeithasu erbyn 1858, a bu farw Dachwedd 1862. Fe'i gladdwyd ym mynwent Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr yn agos at fedd Eben Fardd ei gyfaill. Ynghanol ei bruddglwyfder, ysgrifennodd yr hyn a fwriedid yn epitaff iddo,[1] sef:

Wyf iach o bob afiechyd,
Ac yn fy medd gwyn fy myd.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. W.R. Ambrose, Nant nantlle (Pen-y-groes, 1872), tt.47-8.