Afon Rhydus

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:31, 20 Tachwedd 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Afon Rhydus yw enw'r nant neu afonig sydd yn rhedeg i lawr y cwm cul ar ôl codi mewn llyn bach i'r dwyrain o Lynoedd Cwm Silyn. Ar y mapiau Ordnans gelwir yr afon hon yn Afon Craig-las yn ei darn uchaf o leiaf. Mae'n marcio'r ffin rhwng ffermydd Tal-y-mignedd Isaf a'r Ffridd,[1] ac eiddo Ystad y Faenol a Richard Garnons ar ochr ddeuheuol Dyffryn Nantlle.[2] Mae'n rhedeg i ben uchaf Llyn Nantlle Uchaf. weithiau fe sillefir yr enw yn Rhitys, sydd yn amlygu'r ynganiad.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Thomas Alun Williams, "Afonydd Nantlle", Baladeulyn Ddoe a Heddiw, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [1]
  2. Map Degwm Plwyf Llanllyfni, ar wefan Mapiau Degwm Cymru, [2]
  3. Geraint Thomas, Cyfrinachau Llynnoedd Eryri (Tal-y-bont, 2011), t.40.