Cwm Silyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:14, 20 Tachwedd 2020 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cwm Silyn yn gwm uchel sydd yn gorwedd yng nghysgod Craig Cwm Silyn ar ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle. Mae Cwm Silyn ym mhlwyf Llanllyfni. Cwm bychan ydyw, yn cynnwys dau lyn llonydd a thywyll. Mae olion hafoty ar lan y llyn isaf, yn ogystal â nifer o gorlannau defaid. Hefyd ar lan y llyn mae olion cwt cychod a ddefnyddid gan bysgotwyr. O geg y llyn isaf, rhed afonig yn syth i'r gogledd i lawr y rhostir cyn syrthio i waelod y dyffryn trwy geunant a chyn cyrraedd safle Llyn Nantlle Isaf nid nepell o fferm Tŷ Coch. Afon Tŷ Coch yw'r enw a roddir iddi gan y trigolion lleol er nad yw'r enw hwnnw'n ymddangos ar unrhyw fap.[1] Erbyn heddiw mae'r rhedeg yn syth i Afon Llyfnwy.

Yr unig ffordd hwylus o gyrraedd Cwm Silyn heddiw yw ar hyd llwybr mynydd o gyfeiriad Nebo.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Thomas Alun Williams, "Afonydd Nantlle", Baladeulyn Ddoe a Heddiw, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [1]