Afon Tal-y-mignedd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:30, 18 Tachwedd 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Afon Tal-y-mignedd Isaf yn cynnyrch sawl nant fechan sydd yn codi ar lethrau serth Cwmyffynnon, cyn llifo i lawr y cwm serth tua'r gogledd-orllewin am ryw ffilltir a heibio fferm Tal-y-mignedd, cyn cyrraedd Afon Drws-y-coed, sef rhan uchaf Afon Llyfnwy bron gyferbyn â fferm Gelli-ffrydiau. Nant fynyddig ydyw yn hytrach nag afon sylweddol.

Dylid nodi mai Afon Gelli-dywyll yw'r afon a gamenwir ar fapiau Ordnans fel "Afon Tal-y-mignedd". Mae honno'n llifo ar draws tir hen fferm Tal-y-mignedd Uchaf.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Thomas Alun Williams, "Afonydd Nantlle", Baladeulyn Ddoe a Heddiw, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [1]