Bryn Gwydion

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:42, 20 Awst 2020 gan Synshein (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae fferm Bryn Gwydion ger Pontlyfni ac ym mhen mwyaf gogledd-orllewin plwyf Llanllyfni. Safle hen annedd sydd yno, ac yn yr 17g., bu cangen o deulu Glynniaid Glynllifon a ddisgynnai o gangen Plas Newydd (Llandwrog) yn byw yma. Roedd Edmund Glynn (Bryn Gwydion) yn ynad heddwch adeg y Piwritaniaid, er nad oedd mor weithgar ar y fainc â'i gefnder o bell, Edmund Glynn o'r Hendre, Llanwnda. Tueddai Edmund Glynn y lle sillafu enw ei gartef fel "Brynygwdion".[1]

Aeres olaf hen deulu Bryn Gwydion oedd Ellen Glynn (Bryn Gwydion). Gwerthodd hi lawer o ystâd Bryn Gwydion, sef Eithinog Wen er mwyn codi arian i sefydlu elusen i godi elusendai i hen bobl plwyf Llandwrog. Mae Tai Ellen Glynn yn sefyll hyd heddiw ger Cefn Hengwrt, Llandwrog.

Dichon bod yr enw'n hen iawn iawn, gan fod son am Fryn Gwydion ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

{{cyfeiriadau}]

  1. Archifdy Caernarfon, XQS/1649-1660/amryw