Llanllyfni (trefgordd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:04, 19 Mehefin 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Llanllyfni yn enw ar hen drefgordd yn ystod Oes y Tywysogion ac o dan y tywysogion Seisnig a'u dilynodd; ardal llai o lawer oedd y drefgordd na'r plwyf presennol, ac Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr oedd yn derbyn unrhyw ardrethi o'r drefgordd yn hytrach na'r tywysog. Am erthygl ar blwyf a phentref Llanllyfni yn yr oes fodern, gweler manylion o dan Llanllyfni.