Tramffordd Chwarel Tan'rallt

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:44, 24 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Agorodd Tramffordd Chwarel Tan'rallt ym 1853 gan gwmni'r chwarel i gysylltu'r chwarel â Rheilffordd Nantlle ger Pant-du. Y gost oedd bron i £450 a dewisodd y cwmni'r un lled rhwng y cledrau â Rheilffordd Nantlle, sef 3'6", er i'r chwarel ddefnyddio'r lled culach o 2'0" yn nes ymlaen yn nhyllau'r chwarel ei hun. Defnyddid y dramffordd at yr un perwyl gan Chwarel lechi Fronheulog o 1866 hyd 1879. Wedi'r lein fawr ledu hen Reilffordd Nantlle, gwnaed seidin, sef Seidin Tan'rallt lle gellid trawslwytho llechi o wagenni 3'6" i rai mwy a redai ar y lein fawr. Dichon i'r dramffordd gau tua 1930, er i'r chwarel weld cyfnodau segur pan nad oedd defnydd ar gyfer y dramffordd.

Ffynonellau

  • J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Rails in North Caernarvonshire, Cyf.1 (Oakwood, 1981), tt.244-5.