Trychineb Bae Llanaelhaearn 1795

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:23, 18 Mai 2020 gan Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ar y 6ed o Dachwedd, 1795, cododd storm sydyn ar Fae Caernarfon gan beryglu rhwydi penwaig nifer o bysgotwyr yr Hendref, yng ngwaelod plwyf Llanaelhaearn (nid oedd pentref Trefor yn bod bryd hynny). Roedd y rhwydi hyn wedi eu bwrw allan yn y bae ac wedi eu gadael yno dros dro gyda'r gobaith o gael helfa dda o bysgod. Byddai colli'r rhwydi yn y storm yn ergyd ddychrynllyd i'r pysgotwyr gan eu bod yr adeg honno o'r flwyddyn ynghanol y tymor penwaig . Penderfynasant nad oedd dim amdani ond mentro i'r môr cynddeiriog gyda'i gilydd mewn un cswch rhwyfo a cheisio'u gorau glas achub y rhwydi. Felly, dyna rwyfo allan i ddannedd y dymestl enbyd.