Eifion (etholaeth)
Eifion oedd enw yr etholaeth seneddol yn rhan orllewinol y sir rhwng 1885 a 1918. Heblaw am drefi Caernarfon, Cricieth, Nefyn a Phwllheli ( a oedd yn rhan o etholaeth Bwrdeistrefi Caernarfon, yr oedd etholaeth Eifion yn cynnwys yr holl o Lŷn ac Eifionydd, Uwchwgyrfai a dyffrynnoedd Seiont a Gwyrfai yn Isgwyrfai.
Dim ond dau aelod wnaeth gynrychioli'r etholaeth ar hyd ei oes fer - John Bryn Roberts ac Ellis W. Davies, ill dau yn Ryddfrydwyr. Mae'n ddiddorol i nodi nai George Farren, rheolwr Chwarel ithfaen Trefor oedd yr ymgeisiydd anfuddiol a safodd dan faner yr Uniolaethwyr Rhyddfrydol (sef Toriaid mewn popeth ond enw) ym 1886.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma