Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:39, 29 Ebrill 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn yn cynnwys y rhan fwyaf o arfordir Penrhyn Llŷn ar wahân i leoedd poblog megis Nefyn. Yn ei chwr ogleddol yn Uwchgwyrfai, mae'r ffin yn cychwyn yn Aberdesach, gan ymestyn i'r tir i gynnwys pentrefi Capel Uchaf aThai'nlôn a mynyddoedd Bwlch Mawr a'r Gurn ddu, cyn rhedeg i lawr Cwm Coryn i bentref Llanaelhaearn ac ymlaen dros y wlad i gyfeiriad Pistyll, gan gynnwys felly, mynyddoedd Yr Eifl.

Sefydlwyd yr AHNE ym 1956, ac mae'n cael ei gweinyddu gan adran cefn gwlad Cyngor Gwynedd. Mae'r ardal i gyd yn cynnwys 15,500 hectâr.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

Categori:Daearyddiaeth ddynol]]

  1. Gwefan AHNE Ll yn, [1], cyrchwyd 28.4.2020