John William Jones, 'Y Drych'

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:56, 22 Ebrill 2020 gan Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd John William Jones ym Mryn Bychan, Llanaelhaearn ar 11 Ionawr, 1827, ac yn ifanc iawn bu'n was bach ar fferm Hendrefeinws, Y Ffôr. Yn fuan symudodd y teulu o Lanaelhaearn i Dy'n Llwyn, Llanllyfni. Cadwai William Jones, tad John, ysgol yn Llanllyfni am gyfnod.

Ym mis Mai 1845, yn ddeunaw oed, ymfudodd JWJ i America gya chriw o Gymry siroedd Caernarfon a Meirionnydd. Cychwynasant mewn 'agerfad' o Borth yr Aur Caernarfon i Lerpwl, a llong wedyn o Lerpwl i Quebec. Cafodd John gwmni gwraig weddw o Lanaelhaearn a'i theulu ar y fordaith. Buont chwe wythnos ar y môr, ac yna treulio wythnos gyfan yn y quaratine yn Afon St. Lawrence. Pen y daith oedd Racine, talaith Wisconsin, ar lan Llyn Michigan - rhyw 10 wythnos o Gaernarfon.

Daeth yn gyfaill i un William Evans (Lockport, Illinois, yn ddiweddarach), a bu'r ddau ohonynt yn gweithio ar ffermydd yr ardal tan fis Hydref pryd y bu iddynt symud i le o'r enw Sag yn Illinois, rhyw 22 milltir i'r de-orllewin o Chicago. Cawsant waith ar y gamlas yno.

Ddeufis yn ddiweddarach, dychwelodd John i Wisconsin (heb William Evans) gan gerdded dros 80 milltir yno. Yn fuan bu'n crwydro i lawr Afon Mississippi gan ymweld ag Orleans Newydd a Vicksburg a lleoedd eraill.

Rhywbryd yn ystod 1846 cyrhaeddodd dalaith Efrog Newydd gyda'r bwriad o ddychwelyd i Gymru. Roedd ei hiraeth mor llethol. Gweithiodd dymor mewn gwaith brics yn Rochester ac yno y cyfarfu â BenjaminLewis o Utica. Dylanwadodd hwnnw arno i symud i Utica yn hytrach nag i'r henwlad, a hynny a wnaetyh gan gael gwaith fel saer dodrefn yno.