Chwarel Parc Dudley
Roedd Chwarel Parc Dudley yn chwarel ithfaen ar lethrau isaf Moel Smytho, ger Gorsaf reilffordd Waun-fawr. Fe'i hagorwyd yn y 1920au ond gweddol fyr fuodd hi'n cael ei defnyddio;y perchnogion oedd cwmni o ardal Wolverhampton.. Roedd peiriant malu carreg yn y chwarel, ac arllwysfa islaw i lwytho wagenni rheilffordd tra pharhaodd gwasanaethau ar y lein fach, ac wedyn lorïau. Mae nifer o olion diddorol yn dal yn y chwarel sydd bellach wedi ei diogelu fel gwarchodfa natur ers 1994. Mae llwybrau difyr wedi eu creu er mwyn i'r cyhoedd ddarganfod nodweddion y safle.