Croesfan Glynllifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:10, 19 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Croesfan Glynllifon yn un o ddim ond tair croesfan (neu level crossing) a weithid gan staff y rheilffordd ar wahân i rai gerllaw gorsafoedd ar y lein o Gaernarfon i Afon Wen ac o fewn ffiniau Uwchgwyrfai. Fe elwid fel arfer yn 'Crosin Glynllifon'. Pwrpas y groesfan oedd caniatáu i gerbydau groesdi'r lein o'r lôn bost er mwyn fynd trwy borth yn Wal Glynllifon i gyrraedd y parc y tu draw i'r wal. Roedd tŷ ar gyfer ceidwad y groesfan gerllaw; fe'i ddymchwelwyd tua throad y ganrif. Roedd y tŷ hwn yn debyg iawn o ran pensaernïaeth i'r tai a godwyd gerllaw croesfannau Graeanog a Glan-rhyd.