Ffrwd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:18, 31 Mawrth 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Ffrwd, Ffrwd Ygyfarnog neu Groeslon Ffrwd yn dreflan ym mhlwyf Llandwrog ychydig oddi ar y ffordd dyrpeg i Bwllheli, sef erbyn heddiw yr A499. Mae yma groesffordd lle mae'r lôn a arweiniai yn y gorffennol o fynydd a mawndir tir uchel plwyf Llandwrog i ffermydd brasach eu byd y tir isel yn croesi'r lôn bost. Ar hyd y ffordd o'r mynydd i'r môr, fe cludid calch a thywod o'r arfordir i ffermydd yr ucheldir, a gyrrwyd defaid a gwartheg ar hyd y lôn tua'r mynydd yn y Gwanwyn at y porfeydd haf a'r hafodydd, tra defnyddid y ffordd i ddod â mawn yn ôl i ffermydd yr iseldir. Gellid dadlau felly mai dyma brif groesffordd plwyf Llandwrog yn yr amser a fu. Dichon mai Ffrwd Ysgyfarnog oedd hen enw'r fangre hon. Mae'n bebyg mai yma yr oedd y dafarn leol yn niwedd y 18g, gan fod Daniel Thomas, Ffrwd Ysgyfarnog, yn dal trwydded i werthu cwrw ym 1776 - hynny ar ôl i hen dafarn Betws Gwernrhiw gau o bosibl.[1]

Mae nifer o fythynnod gerllaw, a bu'r efail a safai yma yn bur gynhyrchiol - ymmmm 1901, rhestrir tri gof yn byw yn y dreflan. Mae un o borthdai parc Glynllifon wrth y groesffordd ar un ochr, a Phlas Isaf yr ochr arall i'r lôn fawr. Defnyddid Plas Isaf fel cartref i stiward Ystad Glynllifon am flynyddoedd lawer. Nid yw Capel Bwlan (MC), Llandwrog ond dau ganllath o gyffordd Ffrwd. Bu swyddfa bost yma am flynyddoedd cyn iddi symud i bentref Llandwrog.

Yma hefyd cychwynnir hen lôn gul sy'n arwain at eglwys a phentref Llandwrog. Roedd hon yn arfer â bod yn brif ffordd ar draws y cwmwd cyn adeiladu'r ffordd dyrpeg.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W.Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Pen-y-groes, 1983), tt.31, 33