Brynaerau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:06, 25 Mawrth 2020 gan 86.162.32.4 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Brynaerau yn dreflan ac yn ardal ym mhlwyf Clynnog Fawr, nid nepell o bentref Pontlyfni. Ceir yno gapel ynghyd â mynwent yr ardal, Ysgol Brynaerau sydd yn gwasanaethu'r ardal i gyd gan gynnwys, bellach, pentref Clynnog Fawr, a fferm Brynaerau. Nid yw'n bell o Bont-y-Cim, lle cafwyd Efail-y-Cim.

Mae plasty gerllaw, Bron Dirion, a godwyd yn y 19g., ac a fu'n gartref dros dro i'r anturiaethwr ifanc Edgar Christian.

Ymddengys yr enw gwreiddiol, Bryn Arien, ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi (Math fab Mathonwy) pan oedd Arianrhod wedi tynghedu na fyddai ei mab, Lleu Llaw Gyffes, yn cael arfau heb iddi hi ei hun eu gwisgo amdano. Ond, yn groes i hynny, hyfforddwyd ef gan Gwydion i farchogaeth ceffylau ac i drin arfau. Aethant i weld Ariarhod am yr eildro, y tro hwn yn rhith dau was ifanc. ‘’Ac yn ieuenctid y dydd drannoeth, cyfodi a wnaethant, a chymryd yr arfordir i fyny parth â Bryn Arien.’’[1] Roedd Syr Ifor Williams o’r farn nad y Brynaerau presennol oedd hwn: “Ar y traeth, gyferbyn â Bryn Aerau, ymgyfyd penrhyn go uchel, a elwir bellach Bryn Beddau. Cynigiaf mai hwn yw’r hen Fryn Arien...” [2]

Enw cae yn Llyn Gela,[3] Pontlyfni, yw Bryn Beddau bellach.[4]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Pedair Cainc y Mabinogi wedi eu diweddaru gan T.H. Parry-Williams, Gwasg Prifysgol Cymru, 1959, t. 95.
  2. ’’Pedeir Keinc y Mabinogi’’ gan Syr Ifor Williams, D.Litt. Ail Argraffiad Gwasg Prifysgol Cymru 1951.
  3. ’’delid gelod mewn llyn oedd gynt ar y tir’’ Allan o ‘’Enwau Lleoedd’’ gan Syr Ifor Williams, MA, D.Litt, FAA, FSA, Gwasg y Brython, Lerpwl, Argraffiad Newydd, 1962, tud. 57
  4. gwybodaeth gan W. Vaughan Jones, Llyn-y-Gele, ar gyfer casgliad Canolfan Hanes Uwchgwyrfai o enwau caeau.