Cyngor Dosbarth Gwledig Gwyrfai
Daeth Cyngor Dosbarth Gwledig Gwyrfai i fodolaeth yn sgil Deddf Llywodraeth Leol 1894, pan grëwyd ail reng o gynghorau lleol wedi'u hethol yn ddemocrataidd (yn ôl safonau'r oes, lle nad oedd merched yn cael pleidleisio heblaw eu bod yn drethdalwyr dros eu heiddo eu hunain). Arferai fod nifer o Undebau'r Tlodion ym mhob sir, ac ar ôl creu cynghorau dosbarth dinesig neu fwrdeistrefi yn y trefi, ffurfiwyd dosbarth gwledig o'r hyn a oedd yn weddill o diriogaeth undeb y tlodion. Gan fod Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon yn ymestyn dros y Fenai i Sir Fôn, ffurfiwyd cyngor dosbarth arall yn y fan honno, gan nad oedd modd i ddosbarth gwlediog fynd y tu hwnt i ffiniau sir.
Roedd pob plwyf yn Uwchgwyrfai heblaw am blwyf Llanaelhaearn yn rhan o ddosbarth Gwyrfai, er iddo ymestyn hefyd dros rhan helaeth o Isgwyrfai, i ddyffrynnoedd Gwyrfai, Seiont a Pheris.
Prif swyddogaethau cynghorau dosbarth gwledig oedd materion megis iechyd cyhoeddus, sbwriel, mynwentydd, llwybrau, mwynderau cyffredinol ac, yn ddiweddarach, dai.
Daeth Cyngor Dosbarth Gwledig Gwyrfai (fel pob cyngor dosbarth a ffurfiwyd yn unol â deddf 1894) i ben ddiwedd Mawrth 1974 pan ffurfiwyd cynghoaru dosbarth mwy; yn achos Dosbarth Gwyrfai, aeth yn rhan o gyngor newydd dosbarth Arfon - ar wahân i blwyf Clynnog Fawr a roddwyd i Ddosbarth Dwyfor.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Gwybodaeth bersonol