Augustus Henry Wheeler

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:59, 19 Mawrth 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Archibald Henry Wheeler (marw 1915) yn reolwr y Cwmni Ithfaen Cymreig ac yn byw ym Mhlas yr Eifl, Trefor. Yn ogystal a'i waith proffesiynol,. fe chwaraeodd ran ym mywyd y sir, gan gynrychioli Trefor ar y Cyngor Sir ymysg pethau eraill. Ym 1909, gyda phartner, John Hughes, Brynarlais, cychwynnodd gwmni bysiau, Cwmni Moduron Caernarfon, a redai fysiau rhwng Caernarfon a Dinas Dinlle a Chaernarfon a Llanaelhaearn.

Roedd yn uwchgapten yng 6ed gatrawd y Fiwsilwyr Cymreig, ac felly aeth i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. fe'i laddwyd 12 Awst 1915 yn y Dardanelles. Gadawodd wraig a phedwar o blant.[1]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Flintshire Observer, 26 Awst 1915, t.8