Ellen Glynn, Bryn Gwydion

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:31, 2 Mawrth 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Ellen Glynne (marw o gwmpas 17530 yn ferch Richard Glynne ab William Glynne o Fryn Gwydion, ger Pontlyfni. ER bod ganddi dri brawd, goroesodd Ellen y tri ohonynt, gan etifeddu ystad Bryn Gwydion, sef rhan o hen ystad Plas Newydd. Credir iddi Ellen Glynne werthu llawer o’i hystâd, sef Eithinog, er mwyn sefydlu elusendai ar gyfer merched bonheddig a oedd mewn sefyllfa anffodus, megis diffyg arian neu oedd ag angen edrych ar eu hôl. Y mai’r adeilad a elwir yn Tai Ellen Glyn yn sefyll hyd heddiw yn Llandwrog.

Roedd Ellen Glynn yn ddisgynnydd i deulu Plas Newydd ac felly yn gyfnither o bell i deulu Glynllifon, ond ni ddylid ei chymysgu gyda Ellen Glynn, un o ferched John Glynn (yr olaf) a farwodd yn ddibriod ym 1711.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 30, 172-3, 266