Sgwrs Defnyddiwr:Sgilffan1

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:39, 24 Chwefror 2020 gan Sgilffan1 (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Berth Ddu Bach

Cysylltir tyddyn Berth Ddu bach â sefydlu Methodistiaeth gynnar yn ardal Clynnog. Mae sawl rheswm am hynny sef ymweliadau mynych Hywel Harris â'r ardal, agosrwydd Llŷn ac Eifionydd, dylanwad Richard Nanney [ficer Clynnog] a chydymdeimlad rhai o deuluoedd pwysig yr ardal â'r Methodistiaid. Cynhaliwyd y seiat gyntaf ym Mherth Du Bach yn 1750 ac mae'n debyg i Hywel Harris alw yno yn ystod ei deithiau pregethu rhwng 1749 a 1751. Hefyd, un o uchelwyr yr ardal oedd Hugh Evans, Berth Ddu ac ynghyd â Hugh Griffith, Y Foel, rhoddodd gryn gefnogaeth i seiadwyr Berth Ddu Bach.