John Sarah (Pencerdd Cernyw)
Roedd John Henry Sarah (ganwyd 1878), ac a urddwyd trwy arholiad i'r Orsedd ym 1918 ac a arddeliai'r ffugenw Pencerdd Cernyw, yn fab i Tom Sarah ac yn frawd i Mary King Sarah. Un o Dal-y-sarn ydoedd, ac am flynyddoedd lawer bu'n aelod o Seindorf Arian Dyffryn Nantlle, yn offerynnwr da ac yn gyfansoddwr medrus.[1] Priododd â Margaret Ellen Jones (ganwyd 1878), nith H.E. Jones (Hywel Cefni), gwerthwr dillad, a bu'r cwpl yn byw gyda hwnnw. Er yn ddyn swil yn ôl pob sôn, fe ymgymerodd â'r swydd o godwr canu yn Seion, Tal-y-sarn wedi i'w rieni a'i chwiorydd ymfudo i America i fod yn nes at ei chwaer enwog, y gantores Mary King Sarah.[2]
Gweithiai fel chwarelwr.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma