Pont Mur y Goeden
Pont Mur y Goeden sy'n nodi'r ffin rhwng plwyf Llanaelhaearn a phlwyf Carnguwch (sydd bellach wedi uno â phlwyf Pistyll, a chario enw Pistyll wedi'r uniad). Mae hefyd yn nodi'r ffin rhwng Cwmwd Uwchgwyrfai a Chwmwd Din-llaen, yn ogystal. felly, â'r ffin rhwng Cantref Arfon a Chantref Llŷn.
Daw enw'r bont o enw'r tyddyn bychan gerllaw, sef Mur y Goeden. Yno, ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y trigai Thomas Williams oedd yn fasnachwr prysur i boblogaeth amaethyddol y ddwy ochr i'r Eifl.