George Farren

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:15, 20 Chwefror 2020 gan 78.144.89.69 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd George Farren (1836-1901) yn reolwr Chwarel yr Eifl, Trefor. Fe gafodd ei eni yn Llundain, yn fab hynaf bargyfreithiwr, yntau'n George Farren. Ar ôl derbyn hyfforddiant i fod yn bensaer, cafodd ei benodi gan gwmni adeiladu mawr Freeman, gan fod yn gyfrifol am y gwaith cerrig yn Nociau Surrey, ar oleudy Hanois ar Ynys Geurnsey, ac ar strwythurau ar Reilffordd Ymestynnol Gorllewin Llundain. O 1863 hyd 1867, cafodd waith fel rheolwr cyffredinol a pheiriannydd Cwmni Ithfaen Ynys Wair (Lundy).

Ym 1868, cafodd swydd debyg gan y Cwmni Ithfaen Cymreig ac yn y man fe ddaeth yn Reolwr Gyfarwyddwr y cwmni hwnnw. Datblygodd chwareli'r cwmni ger Trefor yn gyflym dan ei reolaeth. Fo oedd yn gyfrifol am adeiladu Harbwr Trefor lle gellai llongau stêm o hyd at 500 tunelledd lwytho, am adeiladu system o 5 inclèin, ryw 1880 llath o hyd i gyd, a gweithdy i drwsio a chynnal peiriannau ac injans stem y cwmni. Datblygodd ymhellach y gwaith o adeiladu pentref Trefor, yr oedd y cyn reolwr Trefor Jones wedi dechrau arno, ynghyd ag eglwys ac ysgol, a gosod traeniau effeithiol trwy'r pentref.

Tua 1895, dyluniodd waith Chwarel y Gwylwyr, yn cynnwys glanfa yn rhedeg i'r môr a thramffordd.

Dywedir iddo fod yn reolwr da ar ei ddynion, a chymerai ddiddordeb yn eu lles nhw a lles eu teuluoedd. Enwyd stryd yn Nhrefor, Stryd Farren, ar ei ôl.

Chwaraeodd hefyd ran gyhoeddus yn yr ardal ehangach. Bu'n aelod o Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon (yr oedd ei hawdurdod yn ymestyn ar hyd yr arfordir mor bell â Chlynnog. Roedd yn gynghorydd sir o'i gychwyn ym 1888 hyd ei farwolaeth, ac yn gadeirydd ar Pwyllgor Rheilffyrdd Ysgeifn y cyngor sir. Gwasanaethodd fel ynad heddwch am flynyddoedd lawer, gan orffen fel prif ynad y fainc. Ym 1899, fe'i godwyd yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon.

fe'i gydnabuwyd gan ei broffesiwn: roedd yn aelod o Gymdeithas Beirianyddol Lerpwl, ac yn gadeirydd ar honno ym 1897. Roedd yn aelod o'r Gymdeithas Ystadegol. Roedd yn aelod cysylltiol o Sefydliad y Peirianwyr Sifil o 1868 ymlaen, ac yn aelod llawn 0 1896 ymlaen.

Erbyn ei farwolaeth ar 10 Ebrill 1901, roedd yn byw yn Nhrefenai, Caernarfon.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Prif ffynhonell yr erthygl hon yw Minutes of the Proceedings of the Institution of Civil Engineers, (Cyf.144, 1901, rhan II), tt.314-15 [1] cyrchwyd 20.02.2020