H.E. Jones (Hywel Cefni)
Roedd Hugh Evan Jones (ganwyd 1859), a adweinid fel Hywel Cefni, ei enw barddol, yn wreiddol o Langefni, Ynys Môn. Roedd yn ddilledydd a gwerthwr dillad yn Cefni House, pentref Tal-y-sarn. Bu i'w nith briodi John Sarah (Pencerdd Cernyw) rywbryd ar ôl 1911, ac aeth y ddau at Hywel Cefni i fyw, a dywedir i John Sarah ymgymryd aphrentisiaeth er ei fod yn ei 30au erbyn hynny.[1]
Dyma englyn o'i waith:
Wawr dlos gan aur dlysau i gyd - a'i harddwch Cerdda fel o'r Gwynfyd; Gwyryfol egyr hefyd Y dwyrain borth i deyrn byd. (1910)[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma