Llongau Uwchgwyrfai
Nid oes llawer o hanes am longau a berthynai'n benodol i Uwchgwyrfai ond gellid sôn am y llongau a adeiladwyd o fewn ffiniau'r cwmwd neu gerllaw fel Llongau Uwchgwyrfai.
Mae David Thomas yn rhestru'r rhain yn ei lyfr ar longau'r sir.[1] Dyma nhw, ynghyd â'r mannau lle'u hadeiladwyd:
ABERMENAI ''Speedwell'', slŵp 010 tunnell a adeiladwyd ym 1789, ac a werthwyd yng Nghaer ym 1804 Y FORYD - ni ddywedir am ochr Uwchgwyrfai neu ym mhlwyf Llanfaglan yr oedd hyn ''Ellen Glynne'', smac 37 tunnell a adeiladwyd ym 1843 gan Thomas Edwards. Fe'i chollwyd ger Saltney ym 1867 ''Laura Ann'', smac 29 tunnell a adeiladwyd ym 1846 gan Thomas Edwards. Fe'i chollwyd ym 1854 CLYNNOG ''Nancy'', slŵp 32 tunnell a adeiladwyd ym 1780, ac a gollwyd ym 1817 LLANAELHAEARN neu, yn gywirach, ar y lan yn Nhrefor ''Arvon Lass'', slŵp 20 tunnell a adeiladwyd ym 1854 gan Evan Thomas ''Zion HIll'', sgwner 93 tunnell a adeiladwyd gan Evan Thomas. Fe'i gwerthwyd yn Loch Garman (Wexford), 1891 ''Ion'', brigantîn 230 tunnell a adeiladwyd gan H. Thomas yn ôl pob tebyg. Roedd ei pherchnogion yn Lerpwl. Fe'i gwerthwyd yn Norwy, 1884
Cyfeiriadau
- ↑ David Thomas, Llongau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.206