R. Alun Roberts
Athro llysieueg ac amaethyddiaeth, a naturiaethwr oedd R. Alun Roberts.
Ganwyd yn Glan Gors, Tan-yr-allt, Dyffryn Nantlle i Robert Roberts (brawd Owen, tad i Kate Roberts) a Jane Thomas ei wraig.
Graddiodd a BSc anrhydedd yn 1915, a chwblhaodd PhD yn 1927. Roedd yn athro gwyddoniaeth am gyfnod yn Ysgol Botwnnog (1915-1917), ac roedd yn gweithio i’r Weinyddiaeth Amaeth o 1917-1919. Roedd yn ymgynghori ar lysieueg ac amaeth iddynt hyd nes 1921. Cafodd swydd fel darlithydd, ac yna fel pennaeth adran yn adran amaeth Prifysgol Bangor. Aeth ymlaen wedyn i fod yn Arolygydd ei Mawrhydi dros ysgolion gwledig.
Roedd hefyd yn uchel-siryf Caernarfon rhwng 1955 a 1956. Derbyniodd CBE yn 1962 am ei gyfraniad at amaethyddiaeth. Cyhoeddodd hefyd ‘Y Tir a’i gynyrch’ a ‘Hafodydd Brithion’.
Ffynhonellau
Manylion am bapurau R. Alun Roberts ym Mhrifysgol Bangor
Williams, Melfyn R. Doctor Alun, Bywyd a gwaith yr Athro R. Alun Roberts' (Lolfa, 1977)