Syr John Wynn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:04, 10 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd John Wynn (1701-1773) a ddaeth yn ail farwnig y teulu, ym 1701 a'i fedyddio yn Eglwys Llanbeblig. Yr oedd yn fab i Frances Glynn, unig aeres Ystad Glynllifon a Thomas Wynn o Foduan, a wnaed yn farwnig ym 1742. Cafodd ei addysg prifysgol yng Ngholeg y Frenhines, Caergrawnt.[1]

Gwasanaethodd John Wynn fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon, 1732-3, ac fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon ym 1740. Roedd o'n gwbl gefnogol i blaid y Whigiaid a'r frenhiniaeth. Yn sgil ei gysylltiad â Sir Ddinbych trwy ei briodas ddiweddar, bu'n aelod seneddol dros Fwrdeisdrefi Dinbych, 1741-47, gan guro Syr Watkin Williams-Wynn, y Tori. Ym 1742, fe'i benodwyd yn ddirpwry goffrwr Llys y Brenin, ac ym 1744, efallai fel gwobr am ei gefnogaeth, sicrhaodd iddo fo ei hun swydd Dirprwy Drysorydd Ysbyty Chelsea, swydd dan y llywodraeth gyda chyflog sylweddol iawn ar y pryd o £800 y flwyddyn; a thua'r un pryd, roedd o'n arolygydd cyffredinol mwyngloddfeydd Gogledd Cymru, swydd arall a ofalodd am ddiddordebau y teulu brenhinol. Roedd o hefyd yn Gwnstabl Castell Caernarfon, Fforestydd Eryri a Stiward Ynys Enlli. O 1756 ymlaen fe wasanaethodd fe Ceidwad Rholiau'r Sir.[2]

Dichon oherwydd ei awydd am swyddi a ddeiau ag arian iddo, nid yw'n cael ei gyfrif yn wleidydd mawr nac arweiniol. Ysgrifennodd nifer o lythyrau at Ddug Newcastle yn ystod y 1750au sydd wedi goroesi, a barn yr Athro Glyn Roberts wedi iddo eu darllen oedd hyn: "Mae dyn yn chwilio'n ofer trwy'r ohebiaeth am unrhyw awgrym fod gan Syr John ddiddordebau gwleidyddol cyffredinol. Yr unig beth ar ei feddwl oedd yr hyn y cai fel gwobrau ac mae'r rhan fwyaf o'r ohebiaeth a anfonwyd yn adlewyrchu ei deimlad o ddig at yr hyn a welodd fel diffyg cydnabyddiaeth o'i wasanaeth."[3]

Pan fu ei dad Syr Thomas Wynn farw, byddai wedi sefyll yn lle ei dad pe byddai wedi derbyn swydd ei dad fel aelod o Fwrdd y Lliain Werdd, gan ymddiswyddo Ysbyty Chelsea (swydd na allai aelod seneddol ei dal ar ôl yr etholiad canlynol i'r un pan gafod ei ethol). Yn lle hynny, trefnodd fod ei ewyrth, Syr William Wynn, yn sefyll yn ei le. Aeth yn ôl i'r Senedd fel yr aelod dros y sir ym 1754 fodd bynnag.[4] Cafodd addewid y byddai perthynas iddo'n ei ddilyn yn Ysbyty Chelsea, ond ni wireddwyd hynny, gan achosi cryn siom a dig. Ym 1761 fe newidiodd i etholaeth Bwrdeisdrefi Caernarfon, ond ymddiswyddodd o fywyd cyhoeddus yn 1768 oherwydd iechyd gwael, er iddo fyw hyd 1773.[5]

Tua 1735, fe briododd John Wynn â Jane Wynne, etifeddes Melai, Llanfair Talhaearn ac Abaty Maenan, Dyffryn Conwy. Ychwanegodd hynny diroedd yn ardal Dinbych, Melai, ucheldir Cwm Eigiau a ffermydd a fyddai'n dod yn ffynhonell cyfoeth mawr maes o law ym mhlwyf Ffestiniog.Bu farw Jane 13 Ebrill 1749. Yr oedd gan y cwpl nifer sylweddol o blant: Thomas (a ddaeth yn Thomas Wynn, Arglwydd Newborough 1af), a aned 1736; John (1736-40); Sydney (1737-37); Glynn, (Col. Glynn Wynn, AS; Frances; Margaret, (1742-?); a Dorothea, a farwodd yn fabi.([6]

Cyfeiriadau

  1. ‘’History of Parliament’’ [1]
  2. ‘’History of Parliament’’ [2]
  3. Glyn Roberts, The Glynnes and the Wynns of Glynllifon, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.31
  4. ‘’History of Parliament’’ [3]
  5. Glyn Roberts, The Glynnes and the Wynns of Glynllifon, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.31-2
  6. J Griffiths, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.172-3.