Syr William Wynn
Roedd William Wynn (1679-1754) yn frawd iau Syr John Wynn a fu'n aelod seneddol Bwrdeisdrefi Sir Gaernarfon, (1713-1749). Ar fawrolaeth Syr John, cymerodd William Wynn y sedd drosodd hyd ei farwolaeth yntau ym 1754. Cafodd ei wneud yn farchog ym 1727, wedi iddo ddilyn ei frawd fel gwastrodydd (equerry) i fab y Brenin, a ddaeth yntau'n frenin ar farwolaeth ei dad. Bu hefyd yn gwnstabl Castell Harlech o 1716 hyd ei farwolaeth. Bu'n ddibriod, a sicrhaodd hyn holl ystadau Boduan ar gyfer teulu ei frawd. Yn ystod ei oes, edrychodd ar Blas Boduan fel ei gartref.[1]