J.M.W. Turner

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:34, 28 Ionawr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Arlunydd byd-enwog y cyfnod Rhamantaidd o Lundain oedd Joseph Mallord William Turner (1775-1851). [1] Arferai ddefnyddio pensil, dyfrliw ac olew fel cyfryngau arlunio. Dechreuodd fel artist realistig ond yn gynyddol aeth ei luniau'n fwy argraffyddol. Hoffai yn bennaf ddylunio golygfeydd trawiadol, a daeth ar daith i Ogledd Cymru ym 1798, gan creu lluniau o lawer o olygfeydd cestyll a mynyddoedd, yn eu mysg o leiaf dau o fynydd Y Garn o Lyn Nantlle, sydd yn Oriel y Tate yn Llundain. Ysywaeth, lluniau dyfrliw heb eu gorffen ydynt, yn groes i'r gyfres o luniau gogoneddus o harbwr a chastell Caernarfon. Ymwelodd hefyd â Dyffryn Gwyrfai, ac mae llun hyfryd o Lyn Cwellyn hefyd yn y Tate.


Cyfeiriadau

  1. Erthygl ar Turner yn Wikipedia [1]