Afon Call

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:01, 5 Ionawr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Afon Call yn hen enw sy'n cyfeirio at nant sydd, yn ardal pentref Pant-glas, yn ffurfio ffin ogleddol trefgordd Nancall. Sonnir amdani yn siartrau Abaty Aberconwy.[1] Mae hi'n codi yn y corsdir i'r dwyrain o fferm Cwmbran, cyn llifo i'r de am ychydig cyn troi tua'r gorllewin. Wrth gyrraedd Pant-glas, mae safle hen felin, Melin Pant-glas. Rhed yr afon o dan bont, Pont Pant-glas, ar ffordd yr A487 ychydig llathenni i'r de o gyffordd ffordd Bwlch Derwin, cyn cyrraedd Afon Dwyfach mewn man a elwid yn Abercall. Mae Abercall tua canllath i'r de o Bont Ynysbyntan.[2]

Cyfeiriadau

  1. Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), tt.138-9
  2. Mapiau Ordnans