Ffordd Osgoi Pen-y-groes
Agorwyd Ffordd Osgoi Pen-y-groes yn 2001 gan wyro'r A487, y brif ffordd rhwng y gogledd-orllewin a Caerdydd a de Cymru'n gyffredinol fel nad oedd angen i deithwyr drafeilio trwy bentrefi Llanllyfni, Pen-y-groes a'r Groeslon guda'r strydoiedd culion a phroblemau parcio ar ochr y lôn. Roedd hyn yn golygu adeiladu ffordd newydd sbon o'r drofa am Nasareth hyd at gylchfan newydd a wnaed ger Tafarn y Goat ym mhentref Llanwnda. Mae'n cydredeg am lawer o'r ffordd â [[Lôn Eifion], sef hen drac y rheilffordd o Gaernarfon hyd Afon-wen, er bod angen gwyro peth ar Lôn Eifion yma ac acw i ganatáu codi cylchfannau ac ati. Caewyd rhai lonydd yn ardal Nasareth a Phont-y-crychddwr, a'r lon o Waith Llechi Inigo Jones i dyddyn Grugan Ddu yn Y Groeslon.