Rhedynog Felen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:02, 30 Rhagfyr 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Redynog Felen yn ardal Llanwnda yn ddarn penodol o dir a roddwyd i fynaich gan y Tywysogion. Wedi i'r fynaich symud i Aberconwy, fe gadwyd fel lluest (grange yn Saesneg) a fyddai'n cynhyrchu bwyd neu incwm i'r abaty. Ar ôl hynny, fe'i chyfrifid yn drefgordd, sef rhaniad daearyddol a gweinyddol.

Ffiniau

Nodir ffiniau Rhedynog Felen mewn siartrau Abaty Aberconwy sy'n dyddio o tua 1200. Fodd bynnag, nid yw'n glir erbyn hyn yn union beth oedd y ffiniau gan fod rhai enwau wedi diflannu a chymysgedd wedi bod parthed Afon Carrog ac Afon Gwyled. Hyd y gellir canfod o'r siartrau erbyn hyn, roedd y ffin yn rhedeg o ffynnon nid nepell o Eglwys Llanwnda i cyfeiriad y de gelllaw llinell bresennol yr A487 a'r hen briffordd hyd at Bont Dolydd ac o'r fan honno ar hyd yr afon a elwir heddiw yn Garrog ond a oedd arfer cael ei alw'n Wyled nes cyrreadd Abercarrog, nid nepell o fferm Glan'rafon. O'r fan honno rhedai'r ffin i fyny'r afon Carrog (a elwir heddiw yn Afon Glan-rhyd heibio i Felinwnda ac wedyn at y ffynnon a enwyd eisoes.

Tir eglwysig

Mae siartrau Abaty Aberconwy yn dangos hanes Rhedynog, sef boid hen fynachdy Cymreig wedi bodoli ar y safle am ychydig flynyddoedd cyn symud i Aberconwy ar ddiwedd y 12g.. Mae cyfeiriad i’r lle yma hefyd yn dyddio i 1180, ym Mrut y Tywysogion, fel lle diogel dan nawdd Tywysogion Gwynedd, sydd yn awgrymu bod rhai o leiaf o fynaich Ystrad Fflur wedi symud yna. Mae'r siartr hefyd yn awgyrumu i’r lleoliad gael ei roi yn rodd i fynachod Aberconwy ym 1198 gan Llywelyn ab Iorwerth, gan ei fod yn cael ei chysylltu â’r Abaty yn aml. Os yw hyn yn gywir, mae’n cryfhau’r ddadl fod y lle yma wedi bod yn fynachdy ei hun ar un cyfnod. Fel y traddodiad, fyddai’r sefydliad yma mewn angen i gael ei fferm ei hun, neu ‘cwirt’/’cwrt’ fel y gelwir. Mae’r ffaith fod Cefn Hengwrt a Beudy Gwyn (yn cyfeirio, mae'n debyg, at y Brodyr Gwynion fel y gelwid y mynaich) yn agos i Redynog Felen felly yn dangos fod yr angen yma wedi bodoli ar un cyfnod, a bod y lle'n fferm a fyddai'n cyflenwi bwyd a/neu incwm i fynaich Aberconwy, a hynny hyd at ddiddymiad y mynachlogydd ym 1536.

Y Drefgordd

Roedd Rhedynog Felen yn un o dair trefgordd (neu raniad) yng nghylch eglwys Llanwnda. Roedd y ddwy arall, Bodellog a Llanwnda ei hun, yn drefi cyfrif (lle roedd y trigolion â gorfodaeth i wneud gwaith i ddeiliad y drefgordd). Roedd Rhedynog Felen yn dref rhydd, lle nad oedd gan y trigolion yr un dyletswyddau.


Perchenogaeth

Pan gymerodd y brenin Harri VIII berchnogaeth ar y lle ym 1536, fe roddodd Redynog Felen ar brydles i Huw Puleston o Gaernarfon, er i ddyn o'r enw William ap Dafydd ap Siencyn honni fod ganddo brydles gan y mynaich eisoes am gyfnod o 34 mlnedd, er na lwyddodd i brofi ei honaid. Gwerthodd y Goron y lle i Griffith Davies AS, (gŵr a fu'n aelod seneddol dros fwrdeisdrefi'r sir ym 1553), a hynny ym 1557, a bu yn ei deulu am flynyddoedd lawer. Nid oedd trigolion trefgordd Rhedynog yn hapus gyda hyn a fe gawsant eu cyhuddo (a hynny heb sail mae'n debyg) o ysbeilio'r tiroedd o goed ac ati a fyddai wedi bod o fudd i'r perchennog newydd.

Mae Rhedynog Felen erbyn hyn yn enw ar hen annedd a fferm yn rhan isaf plwyf Llanwnda, a cheir cyfeiriad cynnar i’r lleoliad yma o gwmpas 1673. Heddiw mae ffermdy yn ogystal a thŷ swmpus ar y safle. Ceir yr ysgrif ‘1673 I L A’ ar lechen yn y tŷ, a chredir i hyn fod yn gyfeiriad at ei pherchnogion - roedd Lewis Jones yn berchennog ar y lle ym 1673, a byddai "A" yn cyfeirio at enw ei wraig (sydd yn anhysbys er y credai W. Gilbert Williams mai merch Tŷ Hen, Llanwnda oedd hi. Roedd y sefydliad hwn hefyd yn drefgordd ac yn le o statws a pwysigrwydd sylweddol yn yr ardal.

Mae tir Rhedynogfelen wedi bod yn nwylo rhai o deuluoedd nodedig y Sir ar adegau, cyn cael ei werthu ymlaen a’i hollti mewn maint pob tro. Tybir mai hyn yw achos y ffaith fod ei statws a’r cof ohoni fel lleoliad pwysig wedi diflannu.

Ffynonellau

Cofnod am Rhedynogfelen ar wefan y Comisiwn Brenhinol.

Williams, W. Gilbert Moel Tryfan i’r Traeth: Erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes 1983)

Williams, W Gilbert, Hen Deuluoedd Llanwnda. VI - Teulu Rhedynog Felen, Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, Cyf 8, (1947), tt20-2.