Afon Carrog (Bwlch Derwin)
Afon Carrog yw hen enw a geir mewn dogfennau canoloesol yn cyfeirio at nant sydd yn codi ger Bwlch Derwin ac yn rhedeg tua'r de nes gyrraedd Afon Wen, sydd yn rhedeg heibio i Chwilog ac yn aberu ger hen orsaf Afon Wen ar Fae Ceredigion.
Ni ddylid ei gymysgu â'r Afon Carrog arall yn Uwchgwyrfai, sydd yn rhedeg trwy blwyf Llanwnda.