Owen Wynne Jones (Glasynys)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:53, 12 Ebrill 2019 gan 92.3.11.213 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
llun John Thomas, LLGC

Yr oedd Owen Wynne Jones, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Glasynys (4 Mawrth 1828 – 4 Ebrill 1870), yn fardd, yn awdur ac yn athro ysgol, cyn iddo gael ei ordeinio i'r Eglwys. Cafodd ei eni'n Nhŷ'n y Ffrwd, Rhostryfan yn un o bum plentyn ac yn 10 oed aeth i weithio yn y chwarel. Yn y man fe adawodd y chwarel, ac yn 17 oed fynd i Ysgol Bron-y-foel fel ddisgybl-athro, cyn symud wedyn i Goleg Hyfforddi Caernarfon (coleg hyfforddi eglwysig) a throi at ddysgu. Bu'n athro yn ysgolion Clynnog Fawr hyd 1855, ac wedyn yn Llanfachreth a Beddgelert. O fod yn athro, trôdd at wasanaethu ynyr Eglwys, gan gael ei ordeinio ym 1860. Bu'n gurad yn Llangristiolus a Llanfaethlu, ac wedyn ym Mhontlotyn, Sir Forgannwg. Symudodd wedyn i Gasnewydd i gyd-olygu, gydag Islwyn, y papur newydd Y Glorian. Yn fuan wedyn symudodd i Borthmadog ac wedyn i Dywyn (Meirionnydd) lle bu farw, ond fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Llandwrog.[1]

Fe'i cofir heddiw fel awdur rhyddiaith, er iddo ysgrifennu a chyhoeddi cryn dipyn o farddoniaeth hefyd. Ysgrifennai at y wasg leol dan ffugenw "Salmon Llwyd o ben Moel Tryfan"., yn benodol pan oedd yn ysgrifennau am fywyd gwerin y wlad a straeon llên gwerin. Yn hyn o beth, roedd yn rhywfaint o arloeswr. Dichon mai y llyfr a olygwyd gan Saunders Lewis, Straeon Glasynys[2] ac efallai tudalennai Cymru Fu yw'r unig ffynonellau o'i waith sydd bellach yn weddol hawdd cael gafael arnynt.

I gyrraedd Ty'n-y-ffrwd, Rhostryfan, rhaid troi ar y dde am Ros Isaf yng nghanol y pentref ac ymlaen am hanner milltir nes gweld y tŷ ar y dde. Mae yno lechen ar fur y tŷ i'r bardd, llenor, hynafiaethydd ac offeiriad a roddwyd trwy law Cymdeithas Lenyddol Horeb yn 1928. [3]

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, t.472
  2. (Clwb Llyfrau Cymraeg, 1943)
  3. Cyfres Teithiau Llenyddol Cymdeithas Gelfyddydau Gogledd Cymru: 11. Dyffryn Nantlle, Dewi R. Jones.