Glynne

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:55, 18 Hydref 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Glynne yn un sillafiad ar gyfenw sydd yn lled gyffredin mewn sawl ardal yng Nghymru ac yng Nghernyw hyd yn oed. Nid yw pob Glyn, Glynn neu Glynne felly yn perthyn i'w gilydd - er bod gan rai teuluoedd nad ydynt bellach ag unrhyw gysylltiad ymarferol ag Uwchgwyrfai wreiddiau yn nhir Glynllifon: Glynniaid a Gladstones Penarlág, er enghraifft, neu deulu Glyn, Ewell, Swydd Surrey, sydd wedi rhoi eu cyfenw i fanc

Yng nghyd-destun Uwchgwyrfai, mai cyfenw wedi ei fabwysiadu gan deulu Glynllifon, sef disgynyddion Robert ap Meredydd ap Hwlcyn Llwyd, ydyw. Bu sawl gangen o'r teulu, gan gynnwys rhai a fu'n ymrafael â'i gilydd. Amrywiol iawn yw'r sillafiad a ddefnyddid, o genhedlaeth i genhedlaeth ac yn aml hyd yn oed gan yr un unigolion.

Yng nghyd-destun Cof y Cwmwd, rhaid oedd dewis un sillafiad er mwyn cysondeb ac i hwyluso chwilio a mynegeio, ac felly penderfynwyd defnyddio GLYNN fel arfer. Ceisir creu croesgyfeiriadau lle bo'n briodol o un sillafiad i'r lleill.